Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Bwâu

Mae bwâu yn strwythurau a grëir gan ddefnyddio cromliniau. Maent yn bwysig iawn ar gyfer peirianneg a phensaernïaeth, er enghraifft mewn pontydd, twneli, toeau, drysau a ffenestri. Maent yn gwasgaru’r pwysau i bob ochr.

Bwâu hanner crwn yw’r rhai symlaf. Fe’u defnyddiwyd yn aml mewn pensaernïaeth Normanaidd, er enghraifft yn nrws adnabyddus Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion. Gallwch weld bod y bwa yn hanner cylch.